#

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-0768

Teitl y ddeiseb: Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg.

Mae SWAT wedi ymladd i gadw gwasanaethau gofal iechyd eilaidd diogel, effeithiol a hygyrch i bobl Sir Benfro ers 2005. Methodd deiseb flaenorol i gadw darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg. Heb gyfiawnhad, cafodd y Gweinidog dros Iechyd a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wared ar ddarpariath Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg yn 2014 a adawodd pobl Sir Benfro gydag opsiwn iechyd trydydd dosbarth anniogel, annheg ac anhygyrch i famau, babanod a phlant yn arbennig. 

Ar ran SWAT a phobl Sir Benfro rwy'n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddarpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn dychwelyd ar unwaith i'r lefelau cyn 2014. Nid yw SWAT a phobl Sir Benfro yn cytuno â chanoli gwasanaethau i safle Glangwili. 

Roedd yn rhaid i'r Bwrdd Iechyd gynnal asesiadau o effaith ar gydraddoldeb ac mae'r rhain wedi dangos yn glir bod carfan gyfan o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wedi bod ac yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd y newidiadau hyn. Yn benodol, mae'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, yr ifanc iawn, menywod beichiog, y rhai sydd wedi'u herio'n economaidd a'r rhai ag anableddau wedi cael eu heffeithio'n sylweddol ac yn parhau i gael eu heffeithio gan hyn. Mae gan y Bwrdd Iechyd hyn i gyd wedi'i ddogfennu yn ei asesiadau, ond ymddengys ei fod yn methu neu'n anfodlon dod o hyd i atebion ar gyfer y materion hyn. 

Rwy'n gofyn ichi ddychwelyd gwasanaethau i'r gwasanaethau o'r radd flaenaf yr oeddent yn arfer bod. Byddai hyn yn ail-ddarparu gwasanaethau teg, hygyrch, diogel a chynaliadwy yn hytrach na'r trefniant presennol sy'n anfantais difrifol i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn Sir Benfro.

Sylwer: Mae SWAT yn sefyll am Save Withybush Action Team (Tîm Achub Ysbyty Llwynhelyg).

Cyflwynodd y grŵp ymgyrchu ddeiseb debyg yn y gorffennol, sef P-04-431: Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd. Cafodd y ddeiseb flaenorol ei thrafod gyntaf gan Bwyllgor Deisebau y Cynulliad ar 6 Tachwedd 2012, ac fe'i caewyd ar 4 Ebrill 2017.

Y cefndir i’r polisi

Yn 2012, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymgynghoriad ar y posibilrwydd o newid gwasanaethau ar draws y rhanbarth, a oedd yn cynnwys cynlluniau i ganoli gwasanaethau newyddenedigol yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Cafwyd gwrthwynebiad sylweddol i'r cynigion, ac fe'u heriwyd yn gyfreithiol, fel yr amlinellir isod:

Datblygiadau dilynol

Cafodd y newidiadau arfaethedig i wasanaethau eu rhoi ar waith o fis Awst 2014 ymlaen, ac ym mis Tachwedd 2015 cyhoeddodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant adroddiad o'r adolygiad i wasanaethau menywod a phlant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r adroddiad yn nodi na chanfu grŵp yr adolygiad unrhyw reswm clinigol dros wrthdroi'r penderfyniadau mawr i ail-drefnu a wnaed flwyddyn yn ôl. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi:

Despite a strong public lobby which expressed concern about the changes, we see no clinical case for reverting to stand alone hospital provision. We acknowledge that some families have reported harrowing experiences due to additional travelling time and uncertainty about the need for transfers but we did not see evidence of any worsened outcomes in maternity or paediatric care as a direct result of the reconfiguration. There had been improved compliance with national and professional service standards and although more work is needed to consolidate the staffing and systems we see a strong future for a single service increasingly integrated across two sites.

Roedd y bwrdd iechyd yn cefnogi argymhellion yr adroddiad yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2015 a chytunodd ar gynllun gweithredu yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2016. Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon £1.209 miliwn ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Ionawr 2017 i ddatblygu achos busnes llawn ar gyfer ail gyfnod y gwelliannau i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn Ysbyty Glangwili, sydd wrthi'n cael ei ddatblygu.

Newidiadau dros dro i'r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg

Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ostyngiad dros dro yn oriau agor yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg oherwydd prinder staff, a chafodd hyn sylw yn y cyfryngau.

Ar 13 Mehefin 2017, trafodwyd y mater o gael gwared dros dro ar ofal pediatrig dros nos yn Ysbyty Llwynhelyg yn y Cyfarfod Llawn. Dywedodd y Prif Weinidog:

Rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn ymgynghori ar hyn o bryd—neu’n mynd i ymgynghori cyn bo hir—gydag arbenigwyr yn yr ardal er mwyn sicrhau gwasanaethau cynaliadwy. Ond mae’n wir i ddweud mai rhywbeth dros dro yw hwn, ac nid rhywbeth parhaol.

 

Gwybodaeth gefndir ychwanegol

Adroddiadau'r panelau craffu annibynnol ynghylch y cynigion ar gyfer newid gwasanaethau (2013/14)